Derbyn: Miss Hatcher
Croeso i'r Dosbarth Derbyn - Welcome to the Dosbarth Derbyn 2022 (Cyflwyniad - Presentation)
Helo, a chroeso i dudalen Dosbarth Derbyn!
Miss Hatcher ydw i, ac rydw i a Mr Arkless yn edrych ymlaen at eich croesawu i ddosbarth Derbyn yr wythnos hon! Rwy’n siŵr y cawn lot o hwyl a sbri!
Ein thema’r tymor yma yw ‘Cynefin.’ Rydym yn edrych ymlaen at ddysgu am ein hardal leol!
Byddaf yn postio lluniau a chyhoeddiadau ar dudalen TEAMS y dosbarth. Mae cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio TEAMS isod.
Gofynnaf yn garedig i chi anfon potel ddŵr a ffrwyth/pot o ffrwythau gyda’ch plentyn bob dydd. Hefyd, a fyddech cystal â labelu pob dim fydd yn dod i’r ysgol gyda’ch plentyn, er mwyn atal pethau i fynd ar goll!! Diolch!
Bydd diwrnod Ymarfer Corff eich plentyn pob dydd Mawrth a dydd Gwener. Anfonwch eich plentyn i’r ysgol yn gwisgo eu dillad ymarfer corf yn barod. (h.y. ‘trainers’, siorts/jogyrs/legins a chrys polo glas yr ysgol).
A fyddech cystal â llenwi’r daflen gasglu isod, er mwyn sicrhau ein bod yn ymwybodol ac yn adnabod pwy fydd yn casglu eich plentyn ar ddiwedd bob dydd.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn ag unrhyw beth, cysylltwch â mi dros e-bost, neu gallwn drefnu amser i gael sgwrs dros y ffon.
Diolch yn fawr!
Miss Hatcher a Mr Arkless
Helo, and welcome to Dosbarth Derbyn’s class page!
I’m Miss Hatcher, and Mr Arkless and I are looking forward to welcoming you all to your new class this week! I’m sure we’ll have lots of fun together!
Our theme this term is ‘Cynefin’ - ‘A Welsh word for a place where a being feels it ought to live. It is where nature around you feels right and welcoming’. We are looking forward to learn about our local area!
I will be posting pictures and announcements on our class TEAMS page. Below are instructions on how to use TEAMS.
I ask you kindly to send a bottle of water and fruit/pot of fruit with you child every day. Also, could you please label everything that will be coming with your child in to school to avoid the situation of things going missing!! Thank you!
Your child’s Physical Education day will be every Tuesday and Friday. Please send your child to school wearing their PE uniform. (i.e. trainers, shorts/joggers/leggings and the blue school polo shirt).
Could you please fill in the collection form below, to ensure that we recognise and are aware of who will be collecting your child at the end of the school day.
If you have any questions regarding any matter, please contact me via e-mail, or we can arrange a time to have a chat over the phone.
Diolch yn fawr!
Miss Hatcher and Mr Arkless