arrow-rightalertarrow-downclose emailarrow-upinstagramphonemaptranslate search facebooktwitter    
Search
Close
Can't find what you're looking for?
 
Translate
Close
Translate / Traduire / Übersetzen / Tłumaczyć / Išversti / Tulkot / Traducir
School Logo

YSGOL GYNRADDCREIGIAUPRIMARY SCHOOL

Contact Us / Cysylltwch â ni

Dosbarth 2: Miss Thomas

D2's Home-School Task Spring 2023 - Cyswllt Cartref D2 - Gwanwyn 2023

CALENNIG, CALENNIG A BLWYDDYN NEWYDD DDA......!

Blwyddyn Newydd Dda i deuluoedd a ffrindiau Dosbarth 2!

A very Happy New Year to Dosbarth 2’s families and friends!

 

Mae wedi bod yn braf iawn cael dal fyny gyda’r plantos wedi eu gwyliau Nadolig. Maent wedi bod yn llawn straeon ac wedi mwynhau eu rhannu gyda’u ffrindiau. Diolch o galon am eich negeseuon hyfryd a'ch caredigrwydd dros y Nadolig.

It has been lovely catching up with the ‘plantos’ following their Christmas holiday. They have been full of tales and have enjoyed sharing their stories with their friends. Warmest thanks for your lovely messages and for your kindness over the festive period. 

 

Rydym eisioes wedi dathlu’r hen Flwyddyn Newydd yn y dosbarth yn yr wythnos yn arwain fyny at y 13eg Ionawr. Dysgodd y plant ystod eang o ffeithiau am draddodiadau’r Hen Galan. Buom yn trafod ‘Pwnco’ gan ddysgu penillion i’w hadrodd a’u canu. Astudiom ni’r Fari Lwyd a Chalennig ac aethom ati i greu afalau Calennig. Daeth ymwelwyr i glywed am ein gwaith arbennig a buom yn canu penillion iddynt a chyflwyno ‘perllan’/afal Calennig yr un iddynt cyn i ni rannu ein gwaith gyda nhw. Rydym hefyd ar fin astudio hanes Santes Dwynwen yn ystod yr wythnosau nesaf.

We celebrated the old Welsh New Year in the week leading up to the 13th January. The children learned a wide range of facts about the old New Year and its traditions. We discussed 'Pwnco' and we learned verses to recite and to sing. We studied the Mari Lwyd and Calennig and designed and created Calennig apples. Visitors came to hear about our special work and we sang verses to them and presented each one with a 'perllan'/calennig apple before we shared our work with them. We will also study the history of Santes Dwynwen in the coming weeks.

 

Byddwn yn astudio’r hinsawdd a chynefinoedd gwahanol anifeiliaid, creaduriaid a phlanhigion dros yr wythnosau nesaf yn Nosbarth 2. Byddwn yn parhau i ddatblygu ystod o sgiliau ar draws ein cwricwlwm ac yn gweithio’n galed ar ddatblygu ein sgiliau llythrennedd a rhifedd ymhob Maes Dysgu a Phrofiad.

We will be studying the climate and the habitats of various animals, creatures and plants over the next few weeks. We will continue developing a range of skills across our curriculum and we will be working hard at developing our literacy and numeracy skills in each Area of Learning and Experience.

 

Tasg Cyswllt Cartref: Yn y bythefnos yn arwain fyny at y Pasg, bydd cyfle i bob plentyn yn y Dosbarth rhannu cyflwyniad ar eu dewis o Gynefin (gan drafod anifeiliaid a phlanhigion a’r tywydd a’r hinsawdd yno). Bydd y dasg yn cael ei chwblhau adref a byddwn yn rhoi dyddiad cyflwyno i bob plentyn. Bydd modd cyflwyno gan ddefnyddio pwyntpwer, poster, gwaith 3D maent wedi eu creu er mwyn rhannu eu ffeithiau am eu dewis o gynefin. Gall y ‘plantos’ fod yn greadigol wrth baratoi a chyflwyno! 5 munud o gyflwyniad ar y mwyaf sydd angen a bydd cyfle i’w ffrindiau holi cwestiynau ar ddiwedd y cyflwyniad. Bydd yna rhagor o wybodaeth i ddilyn.

Home-School Task: In the fortnight leading up to the Easter break, each child in the class will be given the opportunity to share a presentation on their choice of Habitat (discussing animals and plants and the weather and climate there). The task will be completed at home and we will give each child a date for their presentation. The presentations may be delivered using a power point, a poster or 3D work to share their facts about their choice of habitat. The children may be as creative as they like! A maximum of 5 minutes is required and there will be an opportunity for their friends to ask questions at the end of the presentation. There will be more information to follow.

 

Yn ddyddiol: Potel o ddŵr, darn o ffrwyth ffres, cot law

Dydd Llun: Newid Llyfrau darllen, dillad addysg gorfforol

Dydd Mercher: Dillad Addysg Gorfforol

Dydd Gwener: Dangos a dweud – 1 eitem arbennig os oes penblwydd/gwyliau/dathliad wedi bod yn y cartref

Daily: Bottle of water, piece of fresh fruit, raincoat

Monday: Individual Reading books to be returned, Physical Education clothes

Wednesday: PE Clothes

Friday: Show and tell - 1 special item to show and to share if there has been a birthday/holiday/celebration at home

 

Rydym yn edrych ymlaen at dymor hapus a phrysur - ac at groesawu’r Gwanwyn.

We are looking forward to a happy and busy a term - and to welcoming the Spring.

 

Cofion gorau/Kind regards,

Miss Thomas & Mrs Tewkesbury

Trosolwg i Deuluoedd D2 - Overview for Families - Gwanwyn/Spring 2023

Croeso i Ddosbarth 2! Welcome to Dosbarth 2!

 

Wel, am wythnos hyfryd yng nghwmni plantos Dosbarth 2! Mi ddaethoch chi â straeon a chyffro a'r haul a’r glaw gyda chi, mae hynny'n sicr! Cofiwch eich cotiau glaw bob dydd rhag ofn bo’ cawodydd annisgwyl!

Well, what a lovely week we’ve had in the company of Dosbarth 2! You certainly brought many stories and excitement as well as the sunshine with you – oh, and the rain clouds too! Don't forget to bring a raincoat with you every day for unexpected showers!

 

Roedd mor braf cael dod i'ch 'nabod chi a chael clywed peth o'ch hanes yr wythnos hon. Diolch i chi gyd am gyfrannu - rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y flwyddyn sydd i ddod. Croeso cynnes i’n ffrind newydd a’i deulu hefyd!

It was lovely getting you know you all this week and hearing about some of your favourite things. Thank you all for contributing - I am really looking forward to the year ahead. A very warm welcome to our new friend and his family too!

 

CYNEFIN yw ein Cyd-destun Dysgu ni ar gyfer yr hanner tymor. Byddwn yn dysgu am y pentref a’r ardal leol.

Our Learning Context this half term will be CYNEFIN (Creigiau and the Local Area). We will be learning about the village and the surrounding area.

 

Byddwn yn datblygu sgiliau newydd ac yn rhoi sglein ar y rheini yr ydym wedi eu dysgu'n barod.

We will be developing new skills and we will be refining the skills that we have already acquired.

 

Yr wythnos hon byddwn yn trafod yr hyn sydd yn bwysig am fod yn rhan o dîm Dosbarth 2. Byddwn yn trafod ein bod ni wastad yn garedig, yn feddylgar, yn ffrindiau da, yn gefnogol, yn ymgeisio'n galed, yn siarad y Gymraeg ac yn bennaf oll... YN HAPUS!  laugh 

This week we will be discussing what is important as a member of Team Dosbarth 2. We will discuss that it is important to always be kind, to be considerate, to be a good friend, to try our best, to speak Welsh and most importantly... TO BE HAPPY!    laugh

 

Mae Tewkesbury yn y dosbarth gyda ni ddydd Llun hyd at ddydd Iau. Byddwn yn cefnogi ac yn annog yr holl ddisgyblion i ddatblygu llu o sgiliau a darganfod gwybodaeth newydd yn ystod y flwyddyn. Bydd Mrs Stone yn ymuno â Mrs Tewkesbury bob yn ail ddydd Mercher.

Mrs Tewkesbury will be with us Monday to Thursday. We are there to support and to encourage each and every learner to develop a whole host of new skills and to gain knowledge. Mrs Stone will join Mrs Tewkesbury every other Wednesday.  

 

Dydd Llun yw ein diwrnod Addysg Gorfforol ar yr iard a’r cae. Byddwn yn cynnal sesiwn neuadd ddydd Mercher (gan gynnwys dawns/drama/symud creadigol/gemau ac addysg gorfforol). Bydd y plantos yn gwisgo eu gwisg Addysg Gorfforol (crys polo glas yr ysgol, hugan/siwmper/ cardigan yr ysgol, siorts/joggers/ leggings du/llwyd a threineri.) i'r ysgol ar y diwrnodau yma.

Monday is our P.E day on the yard or the field. We will undertake physical activities (including dance/drama/creative movement/games and P.E.) in the hall on a Wednesday. The children will come to school dressed in their PE kits on these days (blue school polo shirt, school jumper/hoodie/cardigan, black or grey shorts/joggers/leggings and trainers).

 

Oes modd sicrhau bod gan eich plentyn potel o ddŵr a ffrwyth ffres/llysiau fel byrfwyd yn ddyddiol a chot gynnes pan fydd y tywydd yn troi, os gwelwch yn dda? Pan fyddwn yn anfon llyfrau darllen adref, gofynnwn yn garedig i chi eu dychwelyd fore Llun. Byddwn yn cynnal cwisys darllen/sillafu/rhifedd dros y bythefnos nesaf ac yn dechrau anfon llyfrau darllen/geirfa adref wedi hynny.

Please could you ensure that your child has a bottle of water and a fresh fruit/vegetable snack each day and a warm coat as the weather changes. When the pupils bring their reading books home, please return these on a Monday morning. During the next fortnight we will be undertaking reading/spelling/numeracy quizzes and reading books/vocabulary will be sent home once these have been completed.

 

Bydd unrhyw wybodaeth a manylion Gweithgareddau Cyswllt Cartref ar y dudalen hon ac mi fydd adnoddau a negeseuon hefyd ar Teams D2.

Any information and Home/School Tasks will be posted on this webpage and there will also be resources and messages on D2 Teams Platform.

 

Yn edrych ymlaen at flwyddyn hapus a phrysur gyda'ch plantos.

'Looking forward to a happy and a busy year with your child/children.

 

Cofion cynnes iawn atoch,  Warmest wishes to you all,

Diolch am eich cymorth a'ch cyd-weithrediad,   Thank you for your support and cooperation

 

Miss Thomas    smiley

LLYFRAU DARLLEN I'W DYCHWELYD DDYDD LLUN OS GWELWCH YN DDA.

PLEASE RETURN READING BOOKS ON A MONDAY.

DIOLCH O GALON / MANY THANKS

Cân Diolch (iaith arwyddo) | Cyw's Thank-you song (Sign language)

Dewch i ddysgu iaith arwyddo gyda Cyw!S4C.cymru/cywLearn to sign with Cyw!S4C.cymru/cyw

Ebost/Email: thomasl603@hwbcymru.net  

Rap Tabl 10 Ysgol Gynradd Creigiau

Dewch i Rapio Tabl 10!

Rap Tabl 5

Dewch i rapio'ch tablau! Tabl 5

Sillafu D2

Sgwar 100 - 100 Square

Rhifau Rhagorol - Maths Mawr (Big Maths) Dosbarth 2

Geiriau allweddol - Key Words

Tara Bethan - Rhywle draw dros yr enfys (somewhere over the rainbow) + Lyrics

Can / Song: Rhywle draw dros yr enfys / Somewhere over the rainbow Cantores / Singer: Tara Bethan CD: Does neb yn fy 'nabod i Rhywle draw dros yr enfys, fry ...

Calon Lân | Cor Digidol Rhys Meirion

Dyma sy'n digwydd pan ddaw cannoedd o bobl at ei gilydd (yn ddigidol) i ganu Calon Lân! ANHYGOEL! ❤️️ Calon Lân Welsh Digital Choir during the COVID-19 Coron...

The Gift Of A Friend Tinker Bell

Enfys yn y Ffenest gan Tudur Dylan Jones ac Einir Dafydd

Cywaith gan y bardd Tudur Dylan Jones ac Einir Dafydd dros gyfnod aros adre Covid19.

Swigen Dosbarth 2.mp4

Still image for this video

Swigen Hapus D2.mp4

Still image for this video

D2 Swigen yr Enfys.mp4

Still image for this video

🌈🤗🌈

HELO, helo, shwd 'y chi gyd?!? 🌈🌟🌈

Still image for this video
Fideo gan ser Dosbarth 2 🌈🤗🌈

Gwefannau ac Apiau - Websites and Apps

TWRW'R TABLAU CREIGIAU - Rapio'r Tablau - Tabl 10

Rapio'r Tablau! Tabl 10

TAFWYL HAPUS!!! Diolch o galon am berfformio mor wych! Llongyfarchiadau Blantos!

Email Miss Thomas

 
Top