arrow-rightalertarrow-downclose emailarrow-upinstagramphonemaptranslate search facebooktwitter    
Search
Close
Can't find what you're looking for?
 
Translate
Close
Translate / Traduire / Übersetzen / Tłumaczyć / Išversti / Tulkot / Traducir
School Logo

YSGOL GYNRADDCREIGIAUPRIMARY SCHOOL

Contact Us / Cysylltwch â ni

Dosbarth 6: Mr Evans

Tymor y Gwanwyn 2023/ Spring Term 2023

Tymor yr Hydref/ Autumn Term 2022

Croeso i dudalen Dosbarth 6! Mae 29 ohonom ni yn y dosbarth ac rydym ni yn ddosbarth brwdfrydig, caredig a hapus sydd yn mwynhau her! Yn anffodus, dyma ein blwyddyn olaf yn Ysgol Creigiau ond bwriadwn weithio’n galed a mwynhau bob eiliad eleni cyn i ni ddechrau ein hantur newydd yn yr Ysgol Uwchradd.

 

Pob bore rydym yn mwynhau gweithgareddau darllen, Rhifedd a Llythrennedd. Yn y prynhawniau rydym yn cyflawni gweithgareddau thema. Byddwn yn cynnal ein sesiynau Addysg Gorfforol ar brynhawn dydd Llun a dydd Iau - cofiwch i wisgo eich esgidiau rhedeg a throwsus addas i’r ysgol os gwelwch yn dda (gydag eich crys a siwmper ysgol!). Yn ôl yr arfer, bydd gwersi Sbaeneg/Ffrangeg wythnosol yn cael eu cynnal gan athrawon o Ysgol Gyfun Plasmawr ond rydym dal yn aros am gadarnhad ar hyn o bryd.

 

Fel disgyblion hynaf yr ysgol, mae disgwyliadau uchel ohonom ac mae cyfrifoldebau pwysig iawn gyda ni eleni. Rydyn ni’n gyfrifol am arwain y ffordd a modelu esiampl arbennig i ddisgyblion eraill yr ysgol o ran cymreictod, ymddygiad, ymdrech a thrwy ddilyn gwerthoedd a rheolau’r ysgol. Rhywbeth byddwn yn anelu i wneud gyda balchder!

 

Mae wythnos gyffrous iawn o’m blaenau gyda ni’n mynychu gwersyll yr Urdd Llangrannog o’r 26ain nes y 30ain o Fedi . Gobeithio bydd yr haul yn tywynnu a byddwn yn cael profiad o amrywiaeth o weithgareddau hwyl – sgïo, nofio, marchogaeth a gwibgartio i enwi rhai! Yr wythnos ar ôl i ni ddychwelyd byddwn yn mynd ar ymweliad i Amgueddfa Lofaol Cymru, Pwll Mawr.

 

Peidiwch ag oedi i gysylltu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau,

Mr Evans

 

 

Welcome to our Dosbarth 6 page! There are 29 of us in class and we are an enthusiastic, kind and happy class who thrive on challenges! Unfortunately, this is our last year in Ysgol Creigiau but we fully intend on working hard and enjoying our final year before we embark on our new adventure in Comprehensive School.

 

Every morning we enjoy reading sessions, Literacy and Numeracy work. In the afternoons we complete our theme activities. Our P.E lessons will be held on Monday and Thursday afternoons – please remember to wear your trainers and joggers to school (along with your school top and jumpers!). As usual, weekly Spanish/French lessons will be conducted by teachers from Ysgol Gyfun Plasmawr, however, we are still awaiting confirmation of when these sessions will begin.

 

As the older pupils of school, there are high expectations of us and we have important responsibilities this year. We are responsible for leading the way and modelling an exemplary example in terms of speaking Welsh, behaviour, effort and adhering to school values and rules. Something which we aim to achieve with great pride!

 

We have a very exciting week ahead of us next week where we will be visiting the Urdd campsite in Llangrannog between the 26th and the 30th of September. Hopefully, the sun will shine all week and we have an amazing time taking part in so many activities - skiing, swimming, horse riding, go-carting to name but a few. The week after we return, we will be going on a trip to the Big Pit National Coal Museum.

 

Please don’t hesitate to contact me if you have any questions,

Mr Evans

Croeso i Ysgol Creigiau Mr Evans!

Still image for this video

End of Key Stage 2 Level Descriptions / Disgrifiadau Lefel Diwedd Cyfnod Allweddol 2

Gwybodaeth Cwricwlwm - er gwybodaeth Curriculum Information - for your information

Email Mr Evans

 
Top