Meithrinfa: Mrs Evans
Croeso i'r Feithrinfa!
Welcome to the Meithrinfa!
Helo, Mrs Evans ydw i! Hello, I'm Mrs Evans!

Helo, Miss Phillips ydw i! Hello, I'm Miss Phillips!

Helo, Mrs Willis ydw i!

Helo!
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawi ffrindiau newydd i'r Feithrinfa. Byddwn yn aros i gwrdd â chi ar bwys giât y Feithrinfa am 9 y bore ar ddydd Mawrth, 26ain o Ebrill. Cofiwch i ddod â ffrwyth a photel dwr i bob sesiwn.
Rydym yn cael gwersi Ymarfer Corff ar ddydd Llun ac ar Ddydd Gwener. Dewch yn eich trowsus rhedeg a threineri ar y diwrnodau yna. Cofiwch i ddod a chot law i bob sesiwn ac yna het haul ar ddiwrnodau braf!
Welwn ni chi'n fuan!
Pasg Hapus.
Staff y Feithrinfa
Hello!
We're looking forward to welcoming new friends to the Nursery class after Easter. We will be waiting at the gate to welcome you all for the afternoon session, 12.45 - 3.30. Remember you will need to bring a fruit snack and a bottle of water with you to each session.
We have PE lessons on Monday and Friday. You can come dressed in joggers and trainers on those days. Remember to bring a coat because we enjoy spending time in our garden and it can get a bit cold at times. On sunny days, bring a sun hat.
See you all soon!
Pasg Hapus / Happy Easter!
Nursery Team.
Trosolwg Tymor y Gwanwyn (1) - Spring termly Overview (1)
Amserlen wythnosol - Weekly timetable
Gwybodaeth ychwnegol - Additional information:
Anfonwch ddarn o ffrwyth a photel dwr i bob sesiwn os gwelwch yn dda.
Please send a piece of fruit and a water bottle to the Nursery session.
Labelwch bob dilledyn, potel a phot os gwelwch yn dda
Please label every item of clothing and water bottle.
Bydd ymarfer corff ar ddyddiau Gwener. Gwisgwch eich plentyn mewn dillad addas a threineri.
P.E is on Friday. Please dress your child in leggings / joggers and the school polo shirt and jumper.
Diolch / Thank you
Mrs Evans

Mrs Willis

Miss Phillips

Dechrau'r Ysgol - Llyfryn Gwybodaeth Y Feithrinfa ~ Starting School - Meithrinfa Information Booklet.
Dyma mwy o wybodaeth i chi / Here is more information for you:
Bydd diwrnod Ymarfer Corff eich plentyn ar ddydd Gwener. Gofynnwn yn garedig i chi wisgo eich plentyn yn eu jogyrs/legins, treineri a chrys polo glas yr ysgol.
Your child's PE day will be on Friday. We ask you kindly to dress your child in joggers/leggings, school blue polo shirt and their trainers.
-Bydd angen clymu gwallt hir nôl er mwyn osgoi ymwelwyr bach!
-Long hair should be tied back every day to avoid unwanted visitors!
-Gall y plant ddod â photel dŵr i’r ysgol. Cofiwch i roi enw eich plentyn ar ei b/photel.
-Children may bring a bottle of water to school. Please remember to label your child’s bottle.
Bydd angen i chi anfon darn o ffrwyth gyda'ch plentyn ar gyfer amser ffrwyth yn ystod y sesiwn.
Send a piece of fruit in with your child to be eaten at snack time during the session.
Gofynnwn yn garedig i chi labeli pob eitem o ddillad gyda enw eich plentyn yn glir.
Please label every item of clothing with your child’s name marked clearly.
-Gofynnwn yn garedig am gadarnhad os oes unrhyw un yn wahanol i’r arfer yn casglu eich plentyn o’r ysgol.
-Please inform us if there is any change in the people who may be collecting your child.
-Gofynnwn yn garedig i chi adael i’r ysgol wybod os ydy’ch plentyn yn mynd i fod neu wedi bod i ffwrdd o’r ysgol.
-Please inform the school when your child is or will be absent from school.
-Os gwelwch yn dda, gadewch i ni wybod os yw eich plentyn yn datblygu alergeddau/cyflwr meddygol.
-Please let us know if your child develops any allergies/medical conditions.
-Cofiwch i gadw llygad ar dudalen y dosbarth a’r cylch lythyr wythnosol am unrhyw newidiadau / gwybodaeth ychwanegol. Mae’r ddau ar gael ar wefan yr ysgol: http://www.creigiauprm.cardiff.sch.uk/
-Please check the class webpage and the weekly newsletter for any updates. Both can be found on the school website. http://www.creigiauprm.cardiff.sch.uk/
Gwybodaeth casglu / Collection information
Croeso nol i bawb ar ôl hanner tymor. Gobeithio y cawsoch chi hanner tymor hyfryd.
Rydym yn gyffrous iawn y tymor hwn ac yn barod i ddathlu.
Yr hanner tymor hwn byddwn ni yn dilyn cyd-destun dysgu fel ysgol sef Ddathlu!
Teitl ein dosbarth ni fydd 'Parti Parti – Dewch i ddathlu ein pen-blwyddi!'
Byddwn yn dysgu mwy am ein pen-blwyddi ac am y ffordd yr ydym yn dathlu’r diwrnod pwysig. Ein ffocws bydd gwaith cynllunio a threfnu parti go iawn a’r dathliad i ddod tua diwedd y tymor. Rydym yn hynod gyffrous ac yn mynd i gael hanner tymor prysur iawn.
Bydd gweithgareddau Cyswllt Cartref yn cael eu rhannu ar dudalen Teams y dosbarth ar HWB. Cofiwch i gadw llygad am wybodaeth newydd a byddwn yn rhannu lluniau o’r hyn yr ydym wedi bod wrthi’n gwneud ar hyd y ffordd.
Ym mis Rhagfyr byddwn yn symud ymlaen i ddathlu hwyl yr Wŷl, Y Nadolig. Am gyffrous! Byddwn yn dysgu caneuon Nadoligaidd, ysgrifennu ein llythyr at Sion Corn ac yn gwneud ein gorau glas!
Rydym yn edrych ymlaen at hanner tymor llawn cyffro!
This half term we will be following a whole school learning context - Celebrating!
Our class title will be “‘Party Party – Let’s celebrate our birthdays!
We will be learning more about our special day and how we celebrate our birthday. Our focus will be on planning and organising a party for everyone in class and celebrating that special day towards the end of term. We are very excited and will have a very busy half term ahead.
Home-School tasks will be shared on our class Teams page on Hwb this term. Remember to keep an eye for anything new and we’ll share photographs of what we’ve been doing on the Teams page too.
In December, we’ll be getting ready for Christmas. We’ll be busy learning new Christmas songs, writing our letter to Father Christmas and on our best behaviour. We are looking forward to a busy and exciting half term.
Trosolwg Hydref (2) - Overview Autumn (2)
Amserlen Bore/Prynhawn - Timetable Morning/Afternoon Sessions
'Dyma Fi' yw ein cyd-destun dysgu ar gyfer yr hanner tymor hwn. Rydym yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am ein hunain, ein cyrff ac wrth gwrs gwneud ffrindiau newydd. Byddwn yn dysgu sut i rannu, cymryd tro wrth chwarae gemau gydag eraill. Cawn hwyl a sbri wrth chwarae gyda'n gilydd!
'Dyma Fi' / 'All About Me' is our context for learning this half term. We are looking forward to learning more about ourselves, our amazing bodies and of course will make lots of new friends. We'll learn to share and take turns through playing games. Most of all, we hope to have lots of fun!
Trosolwg Meithrin / Meithrin Overview
Caneuon Cyw Songs - Cân cyfrif ar y bws - Reciting numbers on the bus.
https://www.youtube.com/watch?v=4DleEEIpjmo
Cân Yr Wyddor - The Cyw Alphabet Song