arrow-rightalertarrow-downclose emailarrow-upinstagramphonemaptranslate search facebooktwitter    
Search
Close
Can't find what you're looking for?
 
Translate
Close
Translate / Traduire / Übersetzen / Tłumaczyć / Išversti / Tulkot / Traducir
School Logo

YSGOL GYNRADDCREIGIAUPRIMARY SCHOOL

Contact Us / Cysylltwch â ni

Derbyn: Miss Thomas

Postcards - please ask family and friends to send a postcard to the Dosbarth Derbyn! Gofynnwn yn garedig i'ch fffindiau a'ch teuluoedd anfon cerdiau post at y Dosbarth Derbyn! Plantos y Dosbarth Derbyn, Ysgol Gynradd Creigiau, Cwrt Tregarth, Creigiau, Caerdydd/Cardiff, CF15 9NN

PLEASE send photographs of your front door, house number / name and street name to thomasl603@hwbcymru.net - Anfonwch ffotograffau o'ch drws blaen, rhif / enw eich ty ac enw'r stryd at thomasl603@hwbcymru.net os gwelwch yn dda! DIOLCH

Gweithgareddau Cyswllt Cartref - Home-School Activities Haf 2024

Trosolwg i Deuluoedd - Haf 2024 - Overview for Families

TYMOR YR HAF - 2024 - SUMMER TERM

Mae’n hyfryd cael bod nôl yng nghwmni’r plantos ar ôl y gwyliau Pasg. Maent wedi bod yn llawn straeon ac yn amlwg wedi mwynhau eu hamser, er y tywydd gwael! Gobeithio y cawsoch amser da!

 

Ar ddechrau’r tymor rydym yn edrych ar bentref yr ysgol gan symud ymlaen at edrych ar wledydd y Deyrnas Unedig. ‘Mynd am Dro…’ yw teitl ein hymholiad a byddwn yn edrych ar sut yr ydym, fel gwledydd yn perthyn, yn debyg ac yn wahanol.

 

Ar ddechrau’r tymor, gofynnwn yn garedig i chi dynnu ffotograff o’ch drws blaen, enw/rhif eich cartref a llun o enw eich stryd. Byddwn yn eu harddangos er mwyn eu hadnabod, eu trefnu a’u didoli yn ôl rhifau a deunyddiau, yn trafod yr enwau ac yn edrych ar enwau’r strydoedd. Bydd y plant hefyd yn dysgu eu cyfeiriad wrth chwarae rôl yn swyddfa bost y Derbyn.

 

Os oes gennych ffrindiau/teulu mewn gwahanol fannau ar draws Cymru, Y Deyrnas Unedig neu mewn gwlad arall, tybed os hoffent anfon cerdyn post at y blantos y dosbarth er mwyn dangos ble maent yn byw ac er mwyn i’r Dosbarth edrych ar y stampiau a’r lluniau a’r negeseuon ar y cerdyn post. Rydym eisioes wedi derbyn rhai – o Baris, Llundain a Croatia.

 

Byddwn yn parhau â’n gweithgareddau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm. Mae’r plantos wedi dod â’u llythrennau/llyfrau adre gyda nhw er mwyn eu rhannu gyda chi. Gofynnwn yn garedig i chi eu dychwelyd FORE GWENER os gwelwch yn dda yn yr amlen gyda’r llyfr Cofnod Darllen.

 

Mi fydd rhagor o wybodaeth am y dysgu ar dudalen y dosbarth wythnos nesaf.

 

It's lovely to be back in the  company of the ‘plantos’ after the Easter holidays. They have been full of stories and they clearly enjoyed their break, despite the bad weather! Hopefully, you had a good time!

 

At the beginning of the term we will be studying the village before moving on to look at the countries of the United Kingdom. 'Mynd am Dro...' (‘Let’s go for a Walk…’) is the title of our inquiry and we will look at how we, as countries are related, are similar and are different.

 

At the beginning of the term, we ask you kindly to take a photograph of your front door, the name/number of your home and a picture of the name of your street. We will display them for the pupils to be able to identify them, to sequence and to sort them according to numbers and materials, to discuss the names and to look at the street names. The children will also learn their address whilst undertaking role playing in our class post office.

 

If you have friends/family in living or visiting different places across Wales, the United Kingdom or in another country, I wonder if they would like to send a postcard to the children in the class to show where they live/are visiting. The class will study these and will look at the stamps, the pictures and messages on the postcard. We have already received some - from Paris, London and Croatia.

 

We will continue with our literacy and numeracy activities across the whole curriculum. The children have brought their letters/books home with them to share with you. We ask you kindly to return these FRIDAY MORNING please in the folder with the Reading Record book.

 

There will be more information regarding this term’s learning on the class page next week.

 

Thank you for all your support / Diolch i chi am bob cefnogaeth,

 

Cofion gorau,

Miss Thomas

Croeso nol i ail hanner Tymor y Gwanwyn!

Welcome Back to the second half of the Spring Term! 

 

Mae'n hyfryd cael bod 'nôl yng nghwmni'r plantos wedi'r gwyliau hanner tymor. Gobeithio y cawsoch amser da.

 

Mae casgliad o ddolenni sesiynau Tric a Chlic Melyn a Glas wedi eu gosod ar dudalen hon ac mae'r llythrennau a'r geiriau Melyn a Glas wedi eu gosod fyny i chi hefyd er mwyn i chi cael bod yn rhan o ddysgu'ch plentyn/plant.

 

Byddwn yn parhau â'n gwaith rhif - yn adnabod rhifau, yn creu setiau, yn adio setiau ac yn creu straeon 'tynnu ffwrdd' er mwyn datblygu dealltwriaeth o rif mewn ffyrdd ymarferol.

 

Rydym yn edrych ar ble mae'n bwyd yn dod - planhigyn neu anifail? Rydym yn trafod, yn dosbbarthu ac yn didoli bwydydd er mwyn darganfod o ble maent yn dod a beth rydym yn ei fwyta. Rydym yn trafod holl gynnyrch gwerthfawr y fferm a gwaith pwysig y ffermwyr. 

 

Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd a byddwn yn trafod newidiadau ym myd natur - edrychwch allan am arwyddion bod y tymhorau'n newid - oes blodau/blagur/anifieiliaid bach newych o'ch cwmpas pan ewch am dro? Mwynhewch y darganfod. 

 

 

It is lovely being back in the company of the 'plantos' following the half term holidays. I hope that you all had a good week.

A collection of links for the Tric a Chlic Melyn and Glas session have been placed on the class page and the Melyn and Glas letters and words have also been included in a PDF document for you to share your child/children's learning.

We will continue with our number work - recognising numbers, creating sets, adding sets and creating 'take away' stories in order to develop the understanding of number in practical ways.

We look at where our food comes from - plant or animal? We will discuss, classify and sort foods in order to find out where they come from and what we eat. We will discuss all the valuable products of the farm and the important work that the farmers undertake.

Spring has arrived and we will be discussing changes in nature - look out for signs that the seasons are changing - are there new flowers/buds/newborn animals about when you go for a walk? Enjoy discovering nature's treasures.

We are looking forward to the remainder of the term with the Dosbarth Derbyn.

 

Yn edrych ymlaen yn fawr at weddill y tymor gyda'r Dosbarth Derbyn.

Cofion gorau atoch oll,

Miss Thomas

Cyswllt Cartref - Gwanwyn 2024 Home-School Task Grid - Spring 2024

Cyswllt Cartref - Seiniau a Geiriau Tric a Chlic Glas

Cyswllt Cartref - Seiniau a Geiriau Melyn - Tric a Chlic

Mae gen i dair hwyaden lew

 

https://www.youtube.com/watch?v=a1cTpiGE9Wc

 

 

 

 

Wel, am wythnos brysur!

 

Rydym wedi bod yn adolygu holl seiniau a geiriau Tric a Chlic MELYN yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Rydym wedi bod yn  gweithio’n galed yn cyfateb gair a gair, llythyren a llun a gair a llun ac rydym wedi bod yn ymarfer ffurfio’r llythrennau ar ein byrddau gwyn. Rydym wedi bod yn adeiladu’r geiriau (sillafu) ac yn adnabod (darllen) y geiriau.

 

Cofiwch ddefnyddio’r dolenni sydd ar y dudalen hon er mwyn adolygu’r seiniau a’r geiriau Melyn. Gallwch ddefnyddio llythrennau magnedig i adeiladu’r geiriau a’u darllen neu ysgrifennu’r llythrennau ar ‘post its’ ac yna adeiladu’r geiriau.

 

Rydym wedi bod yn creu setiau ac yn darganfod 1 yn fwy o fewn 10. Rydym wedi bod yn gweithio o fewn grid 10 ac yn ychwanegu 1 yn fwy gan rifo wrth gyffwrdd er mwyn darganfod y cyfanswm. Rydym wedi dechrau defnyddio’r symbolau + (adio) ac = (yn hafal â / yr un peth â…)

Rydym wedi bod yn darllen ac yn ymuno yn y stori Arth Frown, Arth Frown, Beth weli di? Gan enwi’r anifeiliaid a’r lliwiau. Rydym yn mynd i greu fersiwn ein hunain o’r stori yma.

 

Fe wnaethom greu symudiadau anifeiliaid gan ganolbwyntio ar y gân draddodiadol ‘Mae gen i dair hwyaden lew’. Byddwn yn parhau i ddysgu’r geiriau a gwrando ar gasgliad o ganeuon traddodiadol Cwmrhydyrhosyn gan ganolbwyntio ar y caneuon sydd yn cynnwys anifeiliaid a’r fferm.

https://www.youtube.com/watch?v=a1cTpiGE9Wc

 

Roedd ymweliad gan Griw Cyw yn ddiweddglo hyfryd i’r wythnos ac fe wnaethom fwynhau’r prynhawn yn fawr iawn.

 

Mae wythnos newydd yn llawn hwyl a sbri’n aros amdanom ni!

 

 

Well, what a busy week!

 

We have been revisiting all the Tric a Chlic MELYN sounds and words during the past week. We have been working hard matching word to word, letter to picture and word to picture and we have been practicing forming the letters on our whiteboards. We have been building the words (spelling) and recognising (reading) the words.

 

Remember to use the links on this page to review the Yellow sounds and words. You could use magnetic letters to build the words and read them or write the letters on 'post its' and then build the words.

 

We have been creating sets and finding 1 more than within 10. We have been working within a 10 grid and adding 1 more. We touch-counted find the total. We have started using the symbols + (addition) and = (equal to / the same as…).

 

We have been reading and joining in the story Brown Bear, Brown Bear, What do you see? naming the animals and the colours. We are going to create our own version of this story.

 

We created animal movements focusing on the traditional song 'Mae gen i dair hwyaden lew'. We will continue learning the words and will listen to a collection of traditional Cwmrhydyrhosyn songs focusing on the songs that include animals and the farm.

 

https://www.youtube.com/watch?v=a1cTpiGE9Wc

 

A visit from Criw Cyw was a lovely end to the week and we really enjoyed the afternoon.

 

Another fun-filled week is waiting for us!

Gweithgareddau i gefnogi Tric a Chlic - Activities to support Tric a Chlic - Melyn

Enghreifftiau o weithgareddau Tric a Chlic Melyn - Examples of Tric a Chlic Activities (Melyn)

Llythrennau Tric a Chlic - Melyn

Gweithgareddau Cyswllt Cartref - Gwanwyn 2024 - Home-School Tasks - Spring 2024

Trosolwg i Deuluoedd - Gwanwyn 2024 - Overview for Families - Spring 2024

Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

 

Mae’r flwyddyn eisioes yn hedfan heibio ac rydym yn mwynhau bod nôl yng nghwmni’r plantos.

 

Er mwyn sbarduno’r dysgu, fe aethom ar ymweliad i fferm Cefn Mably er mwyn cwrdd â chasgliad hyfryd o anifeiliaid y fferm! Roedd yn ddiwrnod hyfryd yng nghwmni’r dosbarth ac roedd ymddygiad y disgyblion yn wych.

 

‘Mae gan y Derbyn fferm… Hei-a-hei-a-ho!’ yw teitl Ymholiad y dosbarth y tymor hwn. Mae yna drosolwg i deuluoedd ar wefan y dosbarth yn nodi’r sgiliau a’r wybodaeth rydym am ddatblygu, ymarfer a dysgu cyn y Pasg. Hefyd, mae yna gasgliad o weithgareddau Cyswllt Cartref ar eich cyfer er mwyn rhannu yn nysgu’ch plentyn/plant.

 

Bydd Miss John yn ymuno â thîm y Dosbarth Derbyn pan fo Mrs Tewkesbury yn Nosbarth 1 neu’r Feithrinfa. Mrs Tewkesbury fydd yn arwain y dosbarth yn ystod fy sesiwn CPA i.

 

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y tymor newydd yng nghmni’r plantos ac at groesawu’r Gwanwyn - pan ddaw!

 

Diolch o galon am eich cydweithrediad a’ch cefnogaeth.

 

Cofion cynnes,

Miss Thomas.

 

Happy New Year to you all!

 

The new year is already flying by and it has been lovely catching up with the ‘plantos’.

 

As a ‘Tuning In’ session to introduce our new inquiry, we visited Cefn Mably farm to meet a wonderful selection of farm animals! It was a lovely day with the class and the pupils were beautifully behaved throughout the day.

 

The title of this term's class Inquiry is 'Mae gan y Derbyn fferm... Hei-a-hei-a-ho!' (Dosbarth Derbyn has a farm…). An overview of this term’s learning can be found on the class web page, specifying the skills and knowledge we hope to practise, refine and to learn before Easter. Also, there is Home-School Task sheet that includes a collection of activities for you to enjoy in order that you may share in your child/children's learning.

 

Miss John will join the Dosbarth Derbyn team when Mrs Tewkesbury is in Dosbarth 1 or the Meithrinfa. Mrs Tewkesbury will be leading the class during my PPA session.

 

We are really looking forward to the new term in the company of the ‘plantos’ and we can’t wait to welcome Spring - when it arrives!

 

Many thanks for your support and cooperation.

 

Kind regards,

Miss Thomas.

LLIF-DDARLUN TYMOR YR HYDREF 2023 - OVERVIEW FOR FAMILIES - AUTUMN 2023

CROESO I'R DOSBARTH DERBYN!

 

Hoffem groesawu ein teuluoedd i gyd i’r Dosbarth Derbyn. CROESO CYNNES I CHI GYD! Rydyn ni i gyd wedi cael wythnos hyfryd (a chynnes iawn!) yn dod i adnabod ein gilydd. Mae'r 'plantos' wedi setlo'n dda iawn yn eu dosbarth newydd ac yn dod i arfer â hyd a threfn eu sesiynau - DIWRNOD CYFAN YN YR YSGOL! Maen nhw'n dod i arfer â'u dosbarth newydd ac yn dysgu am y ffiniau rydyn ni'n eu gosod er mwyn cadw pawb a phopeth yn ddiogel ac yn drefnus. Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur, hapus a chyffrous gyda’r disgyblion.

 

DYDD LLUN A GWENER - Cofiwch anfon eich plentyn/plant i'r ysgol yn ei wisg/eu gwisg ymarfer corff ar y dyddiau yma. Bydd ein sesiwn ddydd Llun yn yr awyr agored a byddwn yn defnyddio neuadd yr ysgol ddydd Gwener.

(Gwisg Addysg Gorfforol: Crys polo glas yr ysgol ysgol a hugan/ cardigan/siwmper yr ysgol, ‘joggers’ llwyd/tywyll plaen gyda ‘treineri’ a sanau os gwelwch yn dda. Bydd gofyn i'r disgyblion dynnu a gwisgo eu sanau a'u hesgidiau yn ystod sesiynau neuadd.)

 

Byddwn yn anfon Gweithgareddau Cyswllt Cartref adref i chi eu gwneud gyda'ch plentyn/plant wedi i ni gwblhau ein Gweithgareddau Gwaelodlin. Bydd y tasgau Cyswllt Cartref hyn yn cefnogi eu dysgu ac yn eich galluogi i fod yn rhan o'u taith o gryfhau eu sgiliau a datblygu eu gwybodaeth.

 

Gofynnwn yn garedig i chi gefnogi eich plentyn adref wrth ddiwallu â’i anghenion personol megis mynd i’r tŷ bach yn annibynnol, gwisgo ei hunan, defnyddio a gafael mewn offer ysgrifennu, gafael mewn cyllyll/ffyrc/llwyau ac adnabod a gofalu am ei eiddo. Gofynnwn yn garedig i chi hefyd sicrhau bod eich plentyn yn clywed ac yn siarad y Gymraeg ble fo’n bosib. Bydd angen potel o ddŵr a darn o ffrwyth ffres ar eich plentyn/plant yn ddyddiol.

 

Byddwn yn dysgu am gymunedau amrywiol yn ystod y tymor a byddwn yn cymharu a'n cyferbynnu rhai ac yn dysgu am yr hyn sydd yn gwneud ein cymuned ni yn arbennig. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rannu gyda chi am y dysgu a’r profiadau ar gyfer y tymor hwn yn ystod y pythefnos nesaf.

 

Gofynnwn yn garedig i chi ddychwelyd y ffurflenni ‘Casglu ar Ddiwedd Dydd’ i’r ysgol cyn gynted â phosibl. Diolch o galon.

 

Gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos braf, heulog ac edrychwn ymlaen at eich gweld i gyd ddydd Llun.

 

 

We would like to welcome all our families to the Dosbarth Derbyn. CROESO CYNNES I CHI GYD! We have all had a lovely (and a very warm!) week getting to know one another. The 'plantos' have settled really well into their new routine - A WHOLE DAY AT SCHOOL! They are getting used to their new environment and are learning all about the boundaries that we set to keep everybody and everything safe and organised. We are very much looking forward to a busy, a happy and an exciting year with the pupils.

 

MONDAY & FRIDAY - please send your child/children to school in their PE kit on these days. Monday will be outdoor PE and we will use the school hall on a Friday.

(PE Kit: School blue polo shirt and school burgundy hoodie/cardigan/jumper, plain grey/dark joggers with trainers and socks please. Pupils will be required to remove and to put on their socks and trainers during hall sessions.)

 

We will send home 'Home-School Tasks' for you to complete with your child/children following completion of our Baseline Activities. These Home-School tasks will support their learning and enable you to be part of their journey in strengthening their skills and enhancing their knowledge. 

 

We ask you kindly to support your child at home in meeting their personal needs such as using the toilet independently, dressing themselves, using and holding writing implements, using cutlery and identifying and taking care of their belongings. We also ask you kindly to ensure that your child hears and speaks Welsh whenever possible. The ‘plantos’ should bring a bottle of water and a fresh piece of fruit to school each day.

 

We will be learning about various communities during the term and we will be comparing and contrasting some and learning about what makes our own community special. More information will be shared with you regarding the learning and experiences for this term during the next fortnight.

 

May we ask that the 'End of Day Collection Forms' are returned as soon as possible. Diolch yn fawr.

 

I hope that you all have a lovely, sunny weekend and we look forward to seeing you all on Monday.

 

 

Diolch yn fawr am bob cefnogaeth a'ch cydweithrediad. Many thanks for your support and cooperation.

 

Cofion gorau,

 

Miss Thomas, Mrs Tewkesbury & Mrs Willets

Wythnos 1 Tymor yr Hydref 2023 - Week 1 Autumn Term 2023

 

Mae Miss Thomas a Mrs Tewkesbury yn edrych ymlaen yn fawr at yr wythnos gyntaf gyda chi yn y Dosbarth Derbyn! 

Miss Thomas and Mrs Tewkesbury are really looking forward to the first week with you in the Dosbarth Derbyn!

 

- SEFWN GYDA'N GILYDD - TOGETHER WE STAND -

 

Tan toc, Blantos! smileysmiley

Email Miss Thomas

 
Top