Dosbarth Derbyn / Dosbarth 1: Miss Thomas
Croeso cynnes iawn i bawb i ‘Dosbarth Derbyn/Dosbarth 1’!
A very warm welcome to you all to ‘Dosbarth Derbyn/Dosbarth 1’!
Croeso cynnes iawn i blantos ac i deuluoedd y Dosbarth Derbyn a chroeso cynnes iawn nôl i blantos a theuluoedd Dosbarth 1! Ni yw tîm Dosbarth Derbyn/Dosbarth 1! Un teulu mawr hapus!
A very warm welcome to the ‘new plantos’ and families of the Dosbarth Derbyn and a very warm welcome back to the ‘plantos’ and the families of Dosbarth 1! We are Team Derbyn/Dosbarth 1! One big happy family!
Rydym wedi cael amser hyfryd yn dod i adnabod y 'plantos newydd' dros yr wythnos a hanner ddiwethaf - mae pawb wedi ymgartrefu'n dda ac yn ymdopi'n wych wrth ddod i arfer â'u diwrnod llawn yn yr ysgol. Rydym wrth ein boddau yng nghwmni'r 'plantos' ac mae criw Blwyddyn 1 wedi bod yn gymorth mawr i aelodau newydd y dosbarth.
We have had a wonderful time getting to know the 'plantos' during the past week and a half – each child has settled in well and they are coping brilliantly as they get used to their full day at school. We thoroughly enjoy being in the company of the 'plantos' and Blwyddyn 1 pupils have been a great support to their new classmates.
Ymholiad ein dosbarth y tymor hwn yw 'Ein Cyrff Clyfar'. Byddwn yn trafod sut mae ein cyrff yn gweithio a sut mae edrych ar ein cyrff. Byddwn hefyd yn trafod sut mae pawb yn unigryw a sut mae dathlu a pharchu hynny.
Our class inquiry this term is 'Our Amazing Bodies'. We will discuss how our bodies work and how to look after our bodies. We will discuss how everyone is unique and how to celebrate and respect that.
Bydd gweithgareddau gwahaniaethol ac addasol yn cael eu cylfwyno ar draws y cwricwlwm.
Differentiated and adaptive activities will be introduced and delivered across the curriculum.
Byddwn yn gweithio ar ein seiniau a'n geirfa Tric a Chlic ac yn dysgu sut mae segmentu ac adeiladu geiriau gyda'r system sillafu tri bys. Mae dolenni ar gyfer sesiynau Tric a Chlic ar y dudalen hon. Byddwn yn gweithio ar seiniau, symbolau, segmentu ac adeiladu y set Melyn i ddechrau. Bydd y segmentu a'r adeiladu'n newydd i rai a byddwn yn dysgu sut mae canolbwyntio, gwylio'n ofalus a gwrando'n astud ynghyd â chymryd rhan yn frwdfrydig yn y sesiynau yma.
Byddwn yn parhau i ddysgu am wahanol ffurfiau ysgrifennu yn y ddarpariaeth barhaus ac yn ystod gweithgareddau penodol. Byddwn yn ymarfer ffurfio llythrennau ac yn dysgu sillafu geiriau aml-ddefnydd a geiriau ymholiad er mwyn rhoi ‘sglein’ ar ein gwaith ysgrifennu. Bydd gweithgareddau darllen amrywiol yn sicrhau bod pawb yn datblygu eu sgiliau darllen – o adanabod seiniau a geiriau, i ddarllen a rhannu llyfrau a gwrando ar ystod o straeon a’u trafod.
We will work on our Tric a Chlic sounds and vocabulary and will learn how to segment and to build words using the three-finger spelling system. There are links for Tric a Chlic sessions on this page. We will work on sounds, symbols, segmentation and blending the Yellow set of sounds and words initially. The segmentation and blending will be new to some children, and we will learn how to concentrate, watch carefully and listen attentively as well as participate enthusiastically in these sessions.
We will continue learning about various forms of writing in the continuous provision and during focused activities. We will practise letter formation and learn to spell high-frequency words and inquiry-related vocabulary in order to improve and enhance our written work. A variety of reading activities will ensure that everyone develops their reading skills, from recognising sounds and words to reading and sharing books, listening to a range of stories, and discussing them.
Bydd gwaith Mathemateg a Rhifedd yn cynnwys gwaith rhif ymarferol - adnabod rhifolion, creu setiau, deall beth yw gwerth rhif, adrodd dilyniannau o rifau ac yn y blaen. Byddwn yn datblygu ein sgiliau a’n gwybodaeth bondiau rhif, adio a thynnu a rhesymu.
Byddwn yn edrych ar ac yn creu patrymau ail-adroddus, yn dysgu am siapiau 2D a’u priodweddion ac yn dysgu cyfnewid ceiniogau am wahanol eitemau. Bydd pawb yn symud eu sgiliau Mathemateg a rhifedd ymlaen o’u pwynt cychwynnol a byddwn yn datblygu geirfa fathemategol ar bob cyfle.
Mathematics and Numeracy work will include practical number work - recognising numerals, creating sets, understanding what a number is worth, reciting sequences of numbers and so forth. We will develop our skills and knowledge of number bonds, addition, subtraction, and reasoning.
We will look at and create repeating patterns, learn about 2D shapes and learn how to exchange coins for items. Everyone will build on their Mathematical and Numeracy skills from their individual starting point, and we will develop mathematical vocabulary at every opportunity.
Rydym yn canu'n rheolaidd er mwyn datblygu geirfa a chystrawen - mae 'cof cerddorol' yn ffordd wych a hwyliog o ddwyn geiriau a geirfa newydd i'r cof.
We sing regularly to develop vocabulary and sentence structures - 'musical memory' is a great and a fun way of memorising new words and vocabulary.
Dosbarth Derbyn/Dosbarth 1 sydd yn arwain y Gwasanaeth Diolchgarwch felly byddwn yn dysgu llawer o ganeuon yn addas ar gyfer adeg y flwyddyn ac er mwyn diolch am bob dim.
Dosbarth Derbyn/Dosbarth 1 will lead the Harvest Assembly, and we will learn many songs suitable for the time of year (Autumn, Harvest etc.) and to say thank you for everything.
Mi fydd trosolwg o weithgareddau'r Meysydd Dysgu a Phrofiad ar y dudalen hon yr wythnos nesaf.
There will be an overview of the Learning and Experience Areas activities on this page next week.
Mae ein sesiwn Addysg Gorfforol yn y neuadd Ddydd Mercher a’r sesiwn iard Ddydd Iau. Ar y diwrnodau hyn, gofynnwn yn garedig bod y disgyblion yn mynychu'r ysgol yn eu crys polo glas, hugan/siwmper/cardigan yr ysgol, siorts/trowsus loncian/'leggings' a threineri os gwelwch yn dda. Bydd sesiwn Dysgu Awyr Agored yng ngardd a Dosbarth awyr agored yr ysgol yn cymryd lle fore Mercher, felly gofynnwn yn garedig bod y disgyblion yn dod ag esgidiau glaw a chot law gyda nhw ar y diwrnod hwn.
Our P.E hall session is timetabled on a Wednesday and our yard session is on a Thursday. On these days, we ask you kindly that you children attend school in their blue polo shirt, school hoodie/jumper/cardigan, shorts/joggers/leggings and trainers please. An Outdoor Learning session will take place in the school garden and outdoor classroom on Wednesday morning. Therefore, we kindly ask that pupils bring wellington boots and a waterproof coat with them on this day.
Gofynnwn yn garedig i chi gefnogi'ch plentyn a'u hannog i fod yn annibynnol wrth wisgo, defnyddio'r tŷ bach, golchi dwylo, defnyddio hances a gofalu am eiddo personol. Mae plantos y Derbyn yn ymdopi'n wych yn y neuadd ginio ac mae'n bleser eu gweld yn defnyddio fforc a chyllell yn hyderus gyda chymorth eu ffrindiau Blwyddyn 1. Da iawn, blantos! Gwaith tîm arbennig!
We ask you kindly to support your child and to encourage them to be independent when dressing, using the toilet, washing hands, using a tissue/handkerchief and to look after personal belongings. The Dosbarth Derbyn have all coped brilliantly in the lunch hall and it is a pleasure to see them using a fork and knife with confidence with the support of their Year 1 friends. Da iawn, blantos! Great teamwork!
Staff y Dosbarth yw fi, Miss Thomas, Mrs Tewkesbury (Mrs Tewkes i fi a'r plantos!!) a Mrs Willetts. Bydd Mrs Tewkes gyda’r dosbarth ddydd Llun, dydd Mercher a phob bore dydd Iau, a bydd Mrs Willetts gyda’r dosbarth o ddydd Mawrth i ddydd Gwener.
The class staff are Miss Thomas, Mrs Tewkesbury (affectionately known as Mrs Tewkes!!) and Mrs Willetts. Mrs Tewkes will be with the class Monday, Wednesday and every Thursday morning and Mrs Willetts will be with the class Tuesday-Friday.
Rydym yn meithrin yr ymdeimlad o deulu yn y dosbarth a'r ysgol, ble mae pawb yn perthyn, yn rhan bwysig o’r tîm ac yn dangos parch at eraill ac adnoddau'r dosbarth a'r ysgol. Rydym yn annog ymddygiad addas a pharchus ac yn sicrhau bod digon o chwerthin a hwyl ar lawr y dosbarth.
We foster the sense of family in the class and at school, where everyone belongs, is an important of the team and shows respect for others and the resources of the class and school. We encourage appropriate and respectful behavior and ensure there is plenty of laughter and fun on the classroom floor.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at dymor hapus gyda'ch plant chi.
We are looking forward to a happy term with your children
Cofion gorau atoch oll,
Miss Thomas