Dosbarth 5: Mr Williams
Helo bawb a chroeso i Ddosbarth Pump!
Rydym am gael blwyddyn anhygoel, gyda gweithgareddau a phrofiadau diddorol yn sbardun i'n dysgu ac addysgu. Bydd llawer o hwyl ar hyd y ffordd hefyd, wrth i ni ddatblygu sgiliau o bob math a dysgu i fod yn fwy cyfrifol ac annibynnol.
Byddwn yn gwneud ein sesiynau Addysg Gorfforol ar Ddydd Iau (tu allan) a Ddydd Gwener yn y Neuadd, felly bydd angen dod i'r ysgol wedi gwisgo'n addas a gyda chlustlysau wedi'u tynnu os yn bosib.
Bydd gwaith cartref yn cael ei osod ar Ddydd Gwener, i'w gyflwyno erbyn y Dydd Mercher canlynol. Bydd y tasgau fel arfer yn cael ei gosod ar 'Teams' a bydd opsiwn i'w gwneud arlein neu ar bapur yn aml.
Bydd ffolder o weithgareddau ar gael ar Teams os bydd rhaid i rywun ynysu am gyfnod, gyda gweithgareddau sy'n bosib i'w hargraffu neu'u cwblhau gyda phapur a phensil sydd gennych adre. Bydd rhai gweithgareddau i'w gwneud arlein hefyd.
Mwynhewch y tymor cyntaf wrth edrych ar 'Chwaraeon' a'r holl bethau y byddwn yn dysgu - a chofiwch i anelu am y sêr!!
Yn Nhymor y Gwanwyn byddwn yn edrych ar Yr Arctig; y fforwyr sydd wedi bod yna a'r anifeiliaid sy'n byw yno.
Hello everyone and welcome to Dosbarth Pump!
We're going to have a fantastic year, with interesting activities and experiences which will inspire the teaching and learning. We'll have lots of fun along the way as we develop a variety of skills and a sense of responsibility and independence.
Our Physical Education sessions are timetabled for Thursday (outdoors) and Friday (indoors) so you'll need to come suitably dressed for action and with earrings removed, if possible.
Homework will be set on Friday, to be returned by the following Wednesday. Tasks will be set on 'Teams' and will be a mix of online and paper activities.
A folder on Teams has been set up in case anyone has to isolated for a while. There are some online activities and some printable sheets. Tasks can be completed with paper and pencil from home too.
Enjoy the first term's topic about 'Sports' and all the things we'll learn - and remember to reach for the stars!
In the Spring term we'll be looking at The Arctic; the explorers who've been there and the animals who live there.
Hwyl
Mr P Williams
Ebost/Email:
WilliamsP357@Hwbcymru.net