Meithrinfa: Mrs Willis
Welcome 👋Croeso
Helo a chroeso i'r Feithrinfa.
Rydym wedi mwynhau eich croesawu chi i gyd i'ch dosbarth newydd a dod i'ch adnabod chi'n well. Rydym wedi mwynhau darganfod yr ardaloedd yn yr ystafell ddosbarth a dysgu trefn ein dosbarth. Rydyn ni'n mynd i gael llawer o hwyl gyda'n gilydd!!
We have really enjoyed welcoming you all to your new class and getting to know you better. We have enjoyed discovering the areas in the classroom and learning our class routine. We are going to have so much fun together!!
Ein hymchwiliad ar gyfer yr hanner tymor hwn yw 'Fi, Fy Ffrindiau a Fy Nheulu'. Mae gennym ni bethau gwych wedi'u cynllunio. Anturiaethau a phrofiadau newydd llawn sbri!
Our inquiry for this half term is 'Me, My Friends and My Family'. We have some great things planned. New adventures and experiences galore!
Byddwn yn brysur yn dysgu rhannu ac i gymryd tro drwy ein chwarae. Byddwn hefyd yn edrych ar y newidiadau ym myd natur yn ystod tymor yr Hydref.
We will be busy learning to share and to take turns through our play. We will also be looking at the changes in nature during the Autumn term.
Bydd Mrs Tewkesbury yn ymuno gyda ni bob yn ail Dydd Mawrth pan fydd amser CPA gennyf.
Mrs Tewkesbury will join us every other Tuesday, when I undertake my PPA time.
Diwrnod ymarfer corff eich plentyn yw Dydd Mawrth (iard) a Dydd Iau (neuadd)
Gofynnwn yn garedig i chi anfon eich plentyn i'r ysgol yn gwisgo eu dillad ymarfer corff ar y diwrnodau yma. Jogyrs/ legins tywyll , plaen , crys polo glas yr ysgol a trainers.
Your child's P.E days will be on a Tuesday (yard) and Thursday( Hall). We ask you kindly to dress your child in plain, dark joggers / leggings, the school blue polo shirt and their trainers.
Bydd Dydd Llun yn Ddydd Llun mwdlyd yng ngardd yr ysgol. Gofynnwn yn garedig bod y disgyblion yn dod ag esgidiau glaw a chot law gyda nhw i'r ysgol plis.
Monday will be 'Muddy Monday'. We will spend the session exploring over in the school garden. We kindly ask that pupils bring wellington boots and a waterproof coat to school please.
Gofynnwn yn garedig hefyd i chi anfon potel ddwr a ffrwyth gyda'ch plentyn bob dydd.
Os gwelwch yn dda labelwch popeth fydd yn dod ir ysgol gyda'ch plentyn er mwyn osgoi colli pethau.
Your child should bring a bottle of water and a fresh piece of fruit to school every day . Please remember to label both items with your child's name. Please label every item of clothing with your child's name marked clearly to ensure that personal belongings are not lost.
Os oes newid yn y bobol sydd yn casglu eich plentyn rhowch wybod o flaen llaw os gwelwch yn dda.
Please inform us in advance of any changes in the people who may be collecting your child.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad,
Thank you for your support and coordination,
Mrs Willis ![]()
Tymor Yr Hydref 2026 - Autumn Term 2026
Cyflwyniad Pontio - Haf 2026
Dyma Fi! Gwybodaeth ar gyfer fy nosbarth newydd
Admission Form
Caneuon Cyw Songs - Cân cyfrif ar y bws - Reciting numbers on the bus.
https://www.youtube.com/watch?v=4DleEEIpjmo
Cân Yr Wyddor - The Cyw Alphabet Song