Ysgol Sy'n Parchu Hawliau / Rights Respecting School
Ysgol sy'n Parchu Hawliau / Rights Respecting School
Beth yw Ysgol sy'n Parch Hawliau?
Fel rhan o nod ein hysgol i hyrwyddo ysgol hapus a llwyddiannus, rydym yn gweithio tuag at gydnabyddiaeth fel "Ysgol sy'n Parchu Hawliau". Mae hon yn wobr a roddir i ysgolion ar ran UNICEF.
UNICEF yw'r sefydliad mwyaf blaenllaw yn y byd sy'n gweithio i blant a'u hawliau. Yn 1989, addawodd llywodraethau ledled y byd yr un hawliau i bob plentyn trwy fabwysiadu Confensiwn Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CRC). Mae'r hawliau yma yn seiliedig ar yr hyn y mae angen ar blentyn i oroesi, dyfu, gymryd rhan a chyflawni ei b/photensial.
Bydd y wobr 'Ysgol sy'n Parchu Hawliau' (RRSA) yn helpu ein disgyblion i dyfu’n ddinasyddion ifanc hyderus, gofalgar a chyfrifol yn yr ysgol ac o fewn y gymuned ehangach. Drwy ddysgu am eu hawliau, mae plant hefyd yn dysgu am bwysigrwydd parchu hawliau pobl eraill.
Rydym wedi derbyn y wobr efydd ac yn gweithio tuag at y wobr arian.
What is a Rights Respecting School?
As part of our school’s aims to promote a happy and successful school, we are working towards recognition as a “Rights Respecting School”. This is an award which is given to schools on behalf of UNICEF.
UNICEF is the world’s leading organisation working for children and their rights. In 1989, governments worldwide promised all children the same rights by adopting the UN Convention on the Rights of the Child (CRC). These rights are based on what a child needs to survive, grow, participate and fulfil their potential.
The ‘Rights Respecting School’ award (RRSA) will help our pupils to grow into confident, caring and responsible young citizens both in school and within the wider community. By learning about their rights children also learn about the importance of respecting the rights of others.
We have been awarded the bronze award and are currently working towards the silver award.
Llysgenhadon Gwych / Super Ambassadors
Mae ein Llysgenhadon Gwych sy'n aelodau o'n Cyngor Ysgol wedi gwneud gwaith gwych yn sicrhau bod pob plentyn ac oedolyn yn ein hysgol yn gwybod am hawliau plant!
Mynychodd dau o’n Llysgenhadon Gwych ddigwyddiad Parchu Hawliau Llysgenhadon Gwych yn Llancaiach Fawr. Fe gawson nhw gyfarfod â Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, a chymryd rhan mewn gweithdai.
Our Super Ambassadors who are members of our School Council have done a great job in making sure all children and adults in our school know about children’s rights!
Two of our Super Ambassadors attended a Super Ambassadors Rights Respecting event at Llancaiach Fawr. They met Sally Holland, Children’s Commissioner for Wales, and participated in various workshops.
Ein taith hyd yn hyn….
- Mae disgyblion yn ymwybodol o'u hawliau ac yn gwybod bod hawliau'n gyffredinol ac yn ddiamod; mae'r CRC yn berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc ym mhobman, trwy'r amser.
- Mae gan bob dosbarth ei siarter dosbarth ei hun sy'n seiliedig ar Hawliau'r Plant.
- Mae disgyblion yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau sy'n ymwneud â Hawliau'r Plant e.e. angen neu eisiau, trefnu'r hawliau yn ôl pwysigrwydd ac ati.
- Mae pob dosbarth yn dilyn ein calendr ysgol sy'n amlinellu hawl benodol bob mis.
- Mae pob disgybl yn cymryd rhan mewn cystadlaethau ysgol e.e. dylunio poster am un o'r hawliau.
- Cynhaliwyd gwasanaethau ysgol ynglŷn â gwaith UNICEF, hawliau'r plant, amcanion byd-eang.
- Mae Cyngor yr Ysgol yn trafod hawliau'r plant ac yn cynllunio gweithgareddau ysgol gyfan.
Our journey to date…
- Pupils are aware of their rights and know rights are universal and unconditional; the CRC applies to all children and young people everywhere, all the time.
- All classes have their own class charter which is based on the Rights of the Child.
- Pupils regularly take part in activities relating to the Rights of the Child e.g. wants and needs, ordering the rights according to importance etc.
- All classes follow our school calendar which outlines a different right each month.
- All pupils take part in school competitions e.g. design a poster about one of the rights.
- School assemblies have been held about the work of UNICEF, rights of the child, global goals.
- School Council discuss the rights of the child and plan whole school activities.
Uchafbwyntiau’r daith…
Ddydd Mercher 22ain Tachwedd, daeth Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru a Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r ysgol i ddathlu 30 mlynedd o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Cafodd aelodau o Gyngor yr Ysgol gyfle i gyfarfod â Sally Holland a siarad gyda hi am y gwaith rydym yn gwneud yn yr ysgol ar Hawliau Plant. Cawsom wasanaeth arbennig a bu Sally Holland a Julie Morgan yn siarad gyda’r disgyblion am eu gwaith. Canon ni Benblwydd Hapus yn Gymraeg ac yn Saesneg. I gloi’r ymweliad perfformiodd disgyblion Blwyddyn 3 gân newydd sbon ‘Mae Gennym Hawliau’. Dyma berfformiad cyntaf o’r gân hon a gomisiynwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru. Roedd ein hymwelwyr wedi trefnu bod y neuadd yn cael ei haddurno gyda baneri a balwnau glas a chawsom gacen i ddathlu’r achlysur arbennig hwn.
Highlights so far…
On Wednesday 22nd November 2019, Sally Holland, the Children's Commissioner for Wales and Julie Morgan, Deputy Minister for Health and Social Services, came to school to celebrate 30 years of the United Nations Convention on the Rights of the Child. Members of the School Council had the opportunity to meet Sally Holland and talk about the work we are doing at school on Children's Rights. We had a special assembly during which Sally Holland and Julie Morgan talked to the pupils about their work. We sang Happy Birthday in Welsh and in English. To conclude the visit Year 3 pupils performed a new song 'We Stand Together'. This was the first performance of the song that was commissioned by the Children's Commissioner for Wales. Our visitors had arranged for the hall to be decorated with blue flags and balloons and we had a cake to celebrate the memorable occasion.
*Am fwy o wybodaeth gweler ein cynllun gweithredu ar gyfer y wobr arian
*For more information, please see our action plan for the silver award