Dosbarth 6: Mrs Watkins
Croeso i Ddosbarth 6!
2024-2025
Croeso i Ddosbarth 6! Rydw i wedi bod wrth fy modd yn eich dysgu dros y pythefnos diwethaf. Diolch yn fawr am ddechrau arbennig i’r flwyddyn! Rwy’n siŵr eich bod chi, fel fi, yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur, cyffroes a hwyl! Dyma eich blwyddyn olaf yn yr ysgol cyn i chi symud ymlaen i’r ysgol uwchradd ac mae gennym flwyddyn prysur iawn o’n blaenau. Rydym yn dechrau’r flwyddyn gyda chwrs seiclo ar yr 16eg o Fedi ac yna byddwn yn treulio 5 diwrnod yn Llangrannog o’r 23eg i’r 27ain o Fedi.
Fel disgyblion hynaf yr ysgol, mae gennym ddisgwyliadau uchel ohonoch ac mae gennych nifer o gyfrifoldebau pwysig. Rydych yn gyfrifol am arwain y ffordd a modelu esiampl ragorol o ran ymddygiad, ymdrech a gwerthoedd yr ysgol. Rydw i’n hyderus y byddwch yn serennu eleni ac edrychaf ymlaen at ddod i'ch nabod chi gyd.
Dyma ambell beth i gofio:
- Ymarfer corff yn y neuadd pob dydd Mawrth
- Ymarfer corff ar yr iard/cae pob dydd Mercher
- Mi fydd angen dod i'r ysgol wedi gwisgo'n addas h.y. cit addas a chrys polo glas yr ysgol. Cofiwich i dynnu eich clustlysau os yn bosib hefyd.
- Bydd gwaith cartref yn cael ei osod ar Teams ar ddydd Gwener, ac yna dychwelwch erbyn dydd Mercher os gwelwch yn dda.
- Mae croeso i chi dod â llyfr darllen o adref i’w ddarllen yn yr ysgol yn ystod ein sesiynau darllen dyddiol ond mae yna digon o ddewis i chi yn yr ysgol hefyd. Cofiwch i barhau i ddarllen adref hefyd a llenwi eich llyfrnod.
- Peidiwch ag anghofio - dim ond un cas pensil sydd angen ar gyfer yr ysgol.
- Rhowch unrhyw ffonau symudol neu ddyfeisiau tebyg i mi neu'r swyddfa a byddant yn cael eu dychwelyd ar ddiwedd y dydd.
- Byddaf yn cael CPA bob yn ail ddydd Mawrth a bydd Mrs Stone yn eich dysgu ar y dyddiau hyn.
Welcome to Dosbarth 6!
2024-2025
Welcome to Dosbarth 6! You have been a pleasure to teach over the past two weeks so thank you for your warm welcome to Ysgol Creigiau! I'm sure, like me, you are looking forward to a busy, exciting and fun year! This will be your last year in the school before you move on to secondary school and we have a very busy year ahead of us. We start the year with cycling prevision on the 16th of September and then we will spend 5 days in Llangrannog from the 23rd-27th of September.
As the school's oldest pupils, there are high expectations of you and you have a number of important responsibilities. You are responsible for leading the way and modelling an excellent example in terms of behaviour, effort and the school's values. I am confident that you will excel at this throughout year and I look forward to getting to know you all.
Here are a few things to remember:
- P.E. in the hall every Tuesday
- P.E. on the yard/field every Wednesday
- You will need to come to school dressed appropriately, i.e. suitable kit and the school's blue polo shirt. Remember to remove your earrings if possible.
- Homework will be set on Teams on Friday, so please return it by the following Wednesday.
- You are welcome to bring a reading book from home to read during our daily reading sessions but we also have plenty to choose from in class. Please remember to continue reading at home and fill your bookmarks.
- Don't forget - you only need one pencil case for school.
- Hand in any mobile phones or similar devices to me or the office and they will be returned at the end of the day.
- I have PPA every other Tuesday and Mrs Stone will teach you on these days.