Clybiau Chwaraeon Sports Club
Mae Clwb Chwaraeon yn cael ei gynnal yn ystod amser cinio Ddydd Mercher ar gyfer blwyddyn 5 a 6. Mae clwb rhedeg traws gwlad ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gennym hefyd sydd yn ymarfer yn ystod amser cinio ar Ddydd Gwener. Mae clwb pêl-rwyd yn cael ei gynnal ar ôl ysgol ar Ddydd Iau ar gyfer Blwyddyn 5 a 6. Mae cyfle i’r disgyblion cymryd rhan mewn nifer o chwaraeon gan gynnwys pêl-droed, rygbi, athletau, criced a rownderi, dibynnu ar y tymor. Rydym hefyd yn cystadlu yn rheolaidd mewn cystadlaethau chwaraeon yr Urdd. Rydym yn chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn ysgolion lleol bob hanner tymor yn ogystal. Mae’r disgyblion yn derbyn hyfforddiant tennis a chriced gan arbenigwr o glybiau Creigiau. Mae cynrychiolwyr yr urdd yn ymweld â’r ysgol er mwyn darparu sesiynau hoci ac athletau. Rydym wedi cael tipyn o lwyddiant dros y blynyddoedd gyda nifer o’r timoedd yn llwyddiannus ar lefel cenedlaethol.
Sports Club runs on a Wednesday lunchtime for years 5 and 6. Cross-country club is available to all pupils in Key Stage 2 at lunchtime on Fridays. Netball club runs on a Thursday after school for years 5 and 6. The pupils have the opportunity to participate in a number of sports including football, rugby, athletics, cricket and rounders depending on the term. We compete in all of the Urdd Gobaith Cymru sporting competitions. We endeavour to organise friendly matches against local schools half termly. The pupils receive tuition from Creigiau tennis and cricket clubs. The Urdd have also visit us to provide Hockey and Athletics sessions. We have had reasonable success over recent years with many of our teams gaining success at international level.