Derbyn: Miss Thomas
Noswaith dda,
Gofynnwn yn garedig bod y bagiau darllen (gan gynnwys y llyfrau cofnodi a'r llyfrau/adnoddau darllen yn y ffolderi plastig) yn cael eu dychwelyd bob bore Llun er mwyn cwblhau gweithgareddau darllen unigol gyda'r plantos.
DIOLCH O GALON
We ask you kindly to return all reading resources (reading record books/books/resources in the plastic folder) to school every Monday morning in order that we may undertake individual reading activities with the 'plantos'.
Many thanks. Diolch o galon.
Gobeithio eich bod wedi cael penwythnos hyfryd - I hope that you have had a lovely weekend.
Cofion gorau / Warmest wishes.
Gweithgareddau Cyswllt Cartref - Gwanwyn 2026 -Spring - Home-School Activities
Trosolwg i Deuluoedd - Gwawnyn 2026 Spring - Overview for Families
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!
Mae wythnos gyntaf y flwyddyn newydd eisioes yn hedfan heibio ac rydym edrych ymlaen yn fawr iawn at fod ‘nôl yn mwynhau cwmni’r plantos a chael clywed eu straeon.
Er mwyn sbarduno’r dysgu, byddwn yn mynd ar ymweliad i fferm Cefn Mably i gwrdd â chasgliad hyfryd o anifeiliaid y fferm! Bydd yn ddiwrnod hyfryd yng nghwmni’r Dosbarth, rydym yn siwr! Bydd pawb yn gyffrous iawn ac yn edrych ymlaen yn fawr at yr ymweliad!
‘Mae gan y Derbyn fferm… Hei-a-hei-a-ho!’ yw teitl Ymholiad y dosbarth y tymor hwn. Bydd yna drosolwg i deuluoedd ar wefan y dosbarth ac ar Teams yn nodi’r sgiliau a’r wybodaeth rydym am ddatblygu, ymarfer a dysgu cyn y Pasg. Hefyd, bydd yna gasgliad o weithgareddau Cyswllt Cartref ar eich cyfer er mwyn i chi rannu a chefnogi dysgu’ch plentyn/plant.
Bydd Mrs Willets yn ymuno â thîm y Dosbarth Derbyn am rai sesiynau pan fo Mrs Tewkesbury yn cefnogi dosbarthiadau eraill. Mrs Tewkesbury fydd yn arwain y dosbarth yn ystod sesiwn CPA Miss Thomas.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y tymor newydd yng nghmni’r plantos ac at groesawu’r Gwanwyn - pan ddaw! Am y tro, byddwn yn edrych ar y newidiadau tymhorol o’n cwmpas – ac yn cadw’n gynnes!
Diolch o galon am eich cydweithrediad a’ch cefnogaeth. Yn dymuno 2026 hapus iawn i chi gyd.
Cofion gorau,
Lynfa Thomas.
Happy New Year to you all!
The first week of the new year is already flying by and we are very much looking forward to catching up with the ‘plantos’ and to hearing their stories.
As a ‘Tuning In’ session to introduce our new inquiry, we will visit Cefn Mably farm to meet a wonderful selection of farm animals! It will be a lovely day with the class, and the pupils (and staff!) will be extremely excited about visiting the farm.
The title of this term's class Inquiry is 'Mae gan y Derbyn fferm... Hei-a-hei-a-ho!' (Dosbarth Derbyn has a farm…). An overview of this term’s learning will be posted on the class web page, specifying the skills and knowledge we hope to practise, refine and to learn before Easter. Also, there will be a Home-School Task sheet that includes a collection of activities for you to enjoy in order that you may share in your child/children's learning.
Mrs. Willets will join the Dosbarth Derbyn team for a few sessions when Mrs. Tewkesbury is supporting other classes. Mrs. Tewkesbury will be leading the class during my PPA session.
We are really looking forward to the new term in the company of the ‘plantos’ and we cannot wait to welcome Spring - when it arrives! For now, we will be looking for seasonal changes arounds us – and keeping warm!
Many thanks for your continued support and cooperation. Wishing you a happy 2026.
Warmest Wishes,
Lynfa Thomas.
Overview of Activities - Autumn Term - Y Dosbarth Derbyn 2025
Trosolwg Gweithgareddau Tymor yr Hydref - Y Dosbarth Derbyn 2025
Gweithgareddau Cyswllt Cartref - Home-School Activities DOSBARTH DERBYN 2025-2026 Hydref 2025
CROESO I'R DOSBARTH DERBYN 2025-2026
Croeso mawr i bawb i'r Dosbarth Derbyn!
A very warm welcome to you all to the Dosbarth Derbyn!
Rydym wedi cael amser hyfryd yn dod i adnabod y 'plantos' dros yr wythnos ddiwethaf - mae pawb wedi ymgartrefu'n dda ac yn ymdopi'n wych wrth ddod i arfer â'u diwrnod llawn yn yr ysgol. Rydym wrth ein boddau yng nghwmni'r 'plantos'.
We have had a wonderful time getting to know the 'plantos' during the past week – each child has settled well and they are coping brilliantly as they get used to their full day at school. We thoroughly enjoy being in the company of the 'plantos'.
Ymholiad ein dosbarth y tymor hwn yw 'Newidiadau - Ydy popeth yn newyd...?'. Byddwn yn trafod newidiadau sydd yn digwydd yn y byd o'n cwmpas gan gynnwys newiduadau sydd yn ganlyniad i'n penderfyniadau rydym yn eu gwneud. Byddwn yn arsylwi, yn arbrofi, yn ymchwilio ac yn gwneud penderfyniadau a dod o hyd i atebion i'n cwestiynau.
Our class inquiry this term is 'Changes - Does everything change...?'. We will discuss the changes that happen in the world around us, including changes that can happen because of decisions that we make. We will observe, experiment, research and we will make decisions and find answers to our questions.
Byddwn yn gweithio ar ein seiniau a'n geirfa Tric a Chlic ac yn dysgu sut mae segmentu ac adeiladu geiriau gyda'r system sillafu tri bys. Mae dolenni ar gyfer sesiynau Tric a Chlic ar y dudalen hon. Byddwn yn gweithio ar seiniau, symbolau, segmentu ac adeiladu y set Melyn i ddechrau. Bydd y segmentu a'r adeiladu'n newydd i'r plantos a byddwn yn dysgu sut mae canolbwyntio, gwylio'n ofalus a gwrando'n astud ynghyd â chymryd rhan yn frwdfrydig yn y sesiynau yma.
We will work on our Tric a Chlic sounds and vocabulary and will learn how to segment and to build words using the three finger spelling system. There are links for Tric a Chlic sessions on this page. We will work on sounds, symbols, segmentation and blending the Yellow set of words initially. The segmentation and blending will be new to the children and we will learn how to concentrate, watch carefully and listen attentively as well as participate enthusiastically in these sessions.
Bydd gwaith Mathemateg a Rhifedd yn cynnwys gwaith rhif ymarferol - adnabod rhifolion, creu setiau, deall beth yw gwerth rhif, adrodd dilyniannau o rifau ac yn y blaen. Byddwn yn edrych ar ac yn creu patrymau ail-adroddus, yn dysgu am siapiau 2D a’u priodweddion ac yn dysgu cyfnewid ceiniogau am wahanol eitemau. Fel dosbarth byddwn yn casglu, yn cofnodi ac yn dehongli data. Byddwn yn datblygu geirfa fathemategol ar bob cyfle.
Mathematics and Numeracy work will include practical number work - recognising numerals, creating sets, understanding what a number is worth, reciting sequences of numbers and so forth. We will look at and create repeating patterns, learn about 2D shapes and learn how to exchange coins for items. As a class, we will collect, record and analyse data. We will develop mathematical vocabulary at every opportunity.
Rydym yn canu'n rheolaidd er mwyn datblygu geirfa a chystrawen - mae 'cof cerddorol' yn ffordd wych a hwyliog o ddwyn geiriau a geirfa newydd i'r cof.
We sing regularly to develop vocabulary and sentence structures - 'musical memory' is a great and a fun way of memorising new words and vocabulary.
Y Dosbarth Derbyn sydd yn arwain y Gwasanaeth Diolchgarwch felly byddwn yn dysgu llawer o ganeuon addas ar gyfer adeg y flwyddyn ac er mwyn diolch am bob dim.
The Dosbarth Derbyn will lead the Harvest Assembly and we will learn many songs relevant to the time of year (Autumn, Harvest,Thanksgiving etc) and to show that we are grateful and that we say thank you for everything.
Mi fydd trosolwg o weithgareddau'r Meysydd Dysgu a Phrofiad ar y dudalen hon erbyn yr wythnos nesaf.
There will be an overview of the Learning and Experience Areas activities on this page by next week.
Mae ein sesiwn neuadd Ddydd Llun a’r sesiwn iard Ddydd Iau. Ar y diwrnodau hyn, gofynnwn yn garedig bod y disgyblion yn mynychu'r ysgol yn eu crys polo glas, hugan/siwmper/cardigan yr ysgol, siorts/trowsus loncian/'leggings' a threineri os gwelwch yn dda.
Our hall session is timetabled on a Monday and our yard session is on a Thursday. On these days, we ask you kindly that the pupils attend school in their blue polo shirt, school hoodie/jumper/cardigan, shorts/joggers/leggings and trainers please.
Gofynnwn yn garedig i chi gefnogi'ch plentyn a'u hannog i fod yn annibynnol wrth wisgo, defnyddio'r tŷ bach, golchi dwylo, defnyddio hances a gofalu am eiddo personol. Maent yn ymdopi'n wych yn y neuadd ginio ac mae'n bleser eu gweld yn defnyddio fforc a chyllell yn fwy-fwy hyderus. Da iawn, blantos!
We ask you kindly to support your child and to encourage them to be independent when dressing, using the toilet, washing hands, using a tissue/handkerchief and to look after personal belongings. They have all coped brilliantly in the lunch hall and it is a pleasure seeing them becoming more confident in using a fork and knife to eat their meals neatly. Da iawn, blantos!
Mae Mrs Tewkesbury (Mrs Tewkes i fi a'r plantos!!) yn cefnogi'r dysgu a'r addysgu yn y dosbarth yn ddyddiol ar wahan i ddydd Mercher ac un sesiwn ddydd Gwener. Ar ddydd Mercher mi fydd Mrs Willetts yn ymuno â'r dosbarth yn ogystal â dydd Iau pan fydd CPA/Amser Rheolaeth gennyf.
Mrs Tewkesbury (affectionately known as Mrs Tewkes!!) supports the learning and teaching in the classroom on a daily basis apart from Wednesday and one session on a Friday. On Wednesdays, Mrs Willetts will join the class, as well as on a Thursday when I undertake PPA and Management Time.
Rydym yn meithrin yr ymdeimlad o deulu yn y dosbarth a'r ysgol, ble mae pawb yn perthyn, yn bwysig ac yn dangos parch at eraill gan gynnwys adnoddau'r dosbarth a'r ysgol. Rydym wastad yn annog ymddygiad addas ac yn sicrhau bod digon o chwerthin a hwyl ar lawr y dosbarth.
We foster the sense of family in the class and at school, where everyone belongs, is important and shows respect for others as well as the classroom and the school's resources. We always encourage appropriate behavior and ensure there is plenty of laughter and fun on the classroom floor.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at dymor hapus yng nghwmni eich plant.
We are really looking forward to a happy term with your children.

Cofion gorau atoch oll,
Miss Thomas, Mrs Tewkesbury a Mrs Willetts
#tîmDerbyn #teuluDerbyn