Derbyn: Miss Thomas
LLIF-DDARLUN TYMOR YR HYDREF 2023 - OVERVIEW FOR FAMILIES - AUTUMN 2023
CROESO I'R DOSBARTH DERBYN!
Hoffem groesawu ein teuluoedd i gyd i’r Dosbarth Derbyn. CROESO CYNNES I CHI GYD! Rydyn ni i gyd wedi cael wythnos hyfryd (a chynnes iawn!) yn dod i adnabod ein gilydd. Mae'r 'plantos' wedi setlo'n dda iawn yn eu dosbarth newydd ac yn dod i arfer â hyd a threfn eu sesiynau - DIWRNOD CYFAN YN YR YSGOL! Maen nhw'n dod i arfer â'u dosbarth newydd ac yn dysgu am y ffiniau rydyn ni'n eu gosod er mwyn cadw pawb a phopeth yn ddiogel ac yn drefnus. Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur, hapus a chyffrous gyda’r disgyblion.
DYDD LLUN A GWENER - Cofiwch anfon eich plentyn/plant i'r ysgol yn ei wisg/eu gwisg ymarfer corff ar y dyddiau yma. Bydd ein sesiwn ddydd Llun yn yr awyr agored a byddwn yn defnyddio neuadd yr ysgol ddydd Gwener.
(Gwisg Addysg Gorfforol: Crys polo glas yr ysgol ysgol a hugan/ cardigan/siwmper yr ysgol, ‘joggers’ llwyd/tywyll plaen gyda ‘treineri’ a sanau os gwelwch yn dda. Bydd gofyn i'r disgyblion dynnu a gwisgo eu sanau a'u hesgidiau yn ystod sesiynau neuadd.)
Byddwn yn anfon Gweithgareddau Cyswllt Cartref adref i chi eu gwneud gyda'ch plentyn/plant wedi i ni gwblhau ein Gweithgareddau Gwaelodlin. Bydd y tasgau Cyswllt Cartref hyn yn cefnogi eu dysgu ac yn eich galluogi i fod yn rhan o'u taith o gryfhau eu sgiliau a datblygu eu gwybodaeth.
Gofynnwn yn garedig i chi gefnogi eich plentyn adref wrth ddiwallu â’i anghenion personol megis mynd i’r tŷ bach yn annibynnol, gwisgo ei hunan, defnyddio a gafael mewn offer ysgrifennu, gafael mewn cyllyll/ffyrc/llwyau ac adnabod a gofalu am ei eiddo. Gofynnwn yn garedig i chi hefyd sicrhau bod eich plentyn yn clywed ac yn siarad y Gymraeg ble fo’n bosib. Bydd angen potel o ddŵr a darn o ffrwyth ffres ar eich plentyn/plant yn ddyddiol.
Byddwn yn dysgu am gymunedau amrywiol yn ystod y tymor a byddwn yn cymharu a'n cyferbynnu rhai ac yn dysgu am yr hyn sydd yn gwneud ein cymuned ni yn arbennig. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rannu gyda chi am y dysgu a’r profiadau ar gyfer y tymor hwn yn ystod y pythefnos nesaf.
Gofynnwn yn garedig i chi ddychwelyd y ffurflenni ‘Casglu ar Ddiwedd Dydd’ i’r ysgol cyn gynted â phosibl. Diolch o galon.
Gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos braf, heulog ac edrychwn ymlaen at eich gweld i gyd ddydd Llun.
We would like to welcome all our families to the Dosbarth Derbyn. CROESO CYNNES I CHI GYD! We have all had a lovely (and a very warm!) week getting to know one another. The 'plantos' have settled really well into their new routine - A WHOLE DAY AT SCHOOL! They are getting used to their new environment and are learning all about the boundaries that we set to keep everybody and everything safe and organised. We are very much looking forward to a busy, a happy and an exciting year with the pupils.
MONDAY & FRIDAY - please send your child/children to school in their PE kit on these days. Monday will be outdoor PE and we will use the school hall on a Friday.
(PE Kit: School blue polo shirt and school burgundy hoodie/cardigan/jumper, plain grey/dark joggers with trainers and socks please. Pupils will be required to remove and to put on their socks and trainers during hall sessions.)
We will send home 'Home-School Tasks' for you to complete with your child/children following completion of our Baseline Activities. These Home-School tasks will support their learning and enable you to be part of their journey in strengthening their skills and enhancing their knowledge.
We ask you kindly to support your child at home in meeting their personal needs such as using the toilet independently, dressing themselves, using and holding writing implements, using cutlery and identifying and taking care of their belongings. We also ask you kindly to ensure that your child hears and speaks Welsh whenever possible. The ‘plantos’ should bring a bottle of water and a fresh piece of fruit to school each day.
We will be learning about various communities during the term and we will be comparing and contrasting some and learning about what makes our own community special. More information will be shared with you regarding the learning and experiences for this term during the next fortnight.
May we ask that the 'End of Day Collection Forms' are returned as soon as possible. Diolch yn fawr.
I hope that you all have a lovely, sunny weekend and we look forward to seeing you all on Monday.
Diolch yn fawr am bob cefnogaeth a'ch cydweithrediad. Many thanks for your support and cooperation.
Cofion gorau,
Miss Thomas, Mrs Tewkesbury & Mrs Willets
Wythnos 1 Tymor yr Hydref 2023 - Week 1 Autumn Term 2023
Mae Miss Thomas a Mrs Tewkesbury yn edrych ymlaen yn fawr at yr wythnos gyntaf gyda chi yn y Dosbarth Derbyn!
Miss Thomas and Mrs Tewkesbury are really looking forward to the first week with you in the Dosbarth Derbyn!
- SEFWN GYDA'N GILYDD - TOGETHER WE STAND -
Tan toc, Blantos!