Dosbarth 1: Miss Davies
Croeso i Ddosbarth 1![]()
2025-2026
Blwyddyn Newydd Dda Happy New Year.
Gobeithio i chi gyd cael gwyliau Nadolig gwych a dechrau da i'r flwyddyn newydd.
I hope you all had a wonderful Christmas and a good start to the new year.
Rydym yn dechrau'r tymor newydd gyda ymholiad cyffrous newydd sy’n canolbwyntio ar y corff dynol, y synhwyrau a chadw’n iach.
Trwy gydol y tymor, bydd y plant yn:
Dysgu am brif rannau’r corff a’u swyddogaethau
Archwilio’r pum synnwyr a sut maent yn ein helpu i ddeall y byd o’n cwmpas
Trafod ffyrdd o gadw’n iach, gan gynnwys hylendid, ymarfer corff, bwyta’n iach a lles
Bydd y dysgu’n ymarferol ac yn ddiddorol, gyda chyfleoedd i ymchwilio, trafod, bod yn greadigol a dysgu yn yr awyr agored. Anogir y plant i ofyn cwestiynau, rhannu syniadau a chysylltu’r dysgu â’u profiadau eu hunain.
We are starting the new year with an other exciting new inquiry focusing on the human body, the senses and keeping healthy.
Throughout the term, children will:
Learn about the main parts of the body and their functions
Explore the five senses and how they help us understand the world around us
Discuss ways to stay healthy, including hygiene, exercise, healthy eating and wellbeing
Learning will be hands-on and engaging, with opportunities for investigation, discussion, creativity and outdoor learning. Children will be encouraged to ask questions, share ideas and make links to their own experiences.
TROSOLWG I RIENI GWANWYN 2026 OVERVIEW FOR PARENTS SPRING 2026
TASGAU CYSWLLT CARTREF GWANWYN 2026 HOMEWORK TASKS SPRING 2026
Trosolwg i deuluoedd Overview for parents
Tasgau Cyswllt Cartref Homework tasks

Rydym wedi cael dechrau bendigedig i'r flwyddyn ysgol newydd yn Nosbarth 1 ac wedi cael tipyn o hwyl yn dod i 'nabod ein gilydd yn well ac yn cyfarwyddo â threfniadau'r Dosbarth.
We've had a lovely start to the new school year in Dosbarth 1 and have had great fun getting to know each other better and becoming familiar with different routines in Dosbarth 1.
Pethau pwysig i'w cofio:
* Dydd Llun -sesiwn Addysg Gorfforol yn y neuadd.
*Dydd Iau - sesiwn Addysg Gorfforol ar y iard / cae.
*Danfonwch eich plentyn i'r ysgol yn gwisgo ei dillad ymarfer (treineri gyda siorts/jogyrs/legins, crys polo glas yr ysgol a siwmper/cardigan yr ysgol) ar y dyddiau hyn.
*A wnewch chi sicrhau bod gan eich plentyn potel o ddŵr a ffrwyth ffres/llysiau fel byrfwyd yn ddyddiol.
*Cot law/cot gynnes pan fydd y tywydd yn troi, os gwelwch yn dda.
*Byddwn yn mynd am sesiwn i'r ardd am yn ail dydd Mawrth. Cofiwch ddod a dillad addas i'r ysgol bryd hynny. Esgidiau glaw mewn bag a chot addas.
*Pan fydd y plant yn dod â'u llyfrau darllen adref, gofynnwn yn garedig i chi eu dychwelyd fore Llun.
Here are some important things to remember:
* Monday - P.E. session in the hall.
* Thursday P.E. session on the yard or field.
* The children will come to school dressed in their PE kits on these days (blue school polo shirt, school jumper/cardigan, shorts/joggers/leggings and trainers).
* Please could you ensure that your child has a bottle of water and fresh fruit/vegetable for snack each day.
* Raincoat/warm coat for when the weather changes.
*Our garden session will be every other Tuesday Please ensure that your child has appropriate clothes on that day. Wellies in a bag and a coat.
* When your child brings their reading book home, please return on Monday morning.
Bydd Mrs Willets yn ymuno gyda ni yn y dosbarth am hanner diwrnod pob dydd Mawrth.
Mrs Willets will be joining us in the class for half a day every Tuesday.
Bydd Mrs Tewkesbury yn gofalu am y dosbarth bob yn ail Dydd Mercher .
Mrs Tewkesbury will be teaching the class every other Wednesday.
Rwy'n edrych ymlaen at flwyddyn hapus gyda'r dosbarth.
I'm looking forward to a happy year with the class.
Cofiwch gadw golwg ar y dudalen hon am wybodaeth.
Remember to keep an eye on this page for information.
Byddaf hefyd yn rhannu gwybodaeth ar dudalen Teams Dosbarth 1. (Gweler nodiadau sut i ddefnyddio Teams isod)
Information will also be shared on the Dosbarth 1's Teams page. (Please see instructions on how to use Teams below)
Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiwn.
Remember to contact if you have any questions.
Daviesh420@hwbcymru.net
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad parhaus.
Thank you for your ongoing support and cooperation.
Miss Davies ![]()

Ebostio Miss Davies
Caneuon Deffro Dosbarth 1