School of Sanctuary / Ysgol Noddfa
Ysgol Gynradd Creigiau Primary School has begun our journey to become a School of Sanctuary, with the aim of fostering a culture of welcome, inclusion, tolerance and friendship for everyone – especially those seeking sanctuary or who have been forced to flee danger.
We are committed to fostering an environment where every individual feels valued, safe and respected, regardless of their background or circumstances. Our mission is to ensure that our school is an inclusive community that celebrates diversity and provides opportunities for everyone to thrive.
We recognise the importance of embedding this ethos within our curriculum and everyday activities, contributing to Cardiff’s commitment to being a City of Sanctuary. By doing so, we help our learners understand what it means to be a School of Sanctuary and to develop empathy, kindness and an appreciation of the experiences of others.
Our ambition is to encourage our learners, staff and the wider community to extend a hand of friendship, to value diversity and to continue building an environment where everyone is welcomed, respected and supported.
…………………………………………………………………………………………….
Mae Ysgol Gynradd Creigiau Primary School wedi cychwyn ar ein taith i ddod yn Ysgol Noddfa, gyda’r nod o feithrin diwylliant o groeso, cynhwysiant, goddefgarwch a chyfeillgarwch at bawb – yn enwedig y rhai sy’n ceisio lloches neu sydd wedi ffoi rhag perygl.
Rydym yn ymrwymedig i feithrin amgylchedd lle mae pob unigolyn yn teimlo’n werthfawr, yn ddiogel ac yn cael ei barchu, ni waeth beth fo’u cefndir na’u hamgylchiadau. Ein cenhadaeth yw sicrhau bod ein hysgol yn gymuned gynhwysol sy’n dathlu amrywiaeth ac yn rhoi cyfle i bawb ffynnu.
Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd gwreiddio’r ethos hwn yn ein cwricwlwm a’n gweithgareddau bob dydd, gan gyfrannu at addewid Caerdydd i fod yn Ddinas Noddfa. Trwy wneud hyn, rydym yn helpu ein dysgwyr i ddeall beth yw Ysgol Noddfa ac i ddatblygu empathi, caredigrwydd a dealltwriaeth o brofiadau eraill.
Ein huchelgais yw annog ein dysgwyr, ein staff a’r gymuned ehangach i estyn llaw gyfeillgarwch, i werthfawrogi amrywiaeth ac i barhau i adeiladu amgylchedd lle mae pawb yn cael eu croesawu, eu parchu a’u cefnogi.
Dosbarth Derbyn welcoming all to our school / Dosbarth Derbyn yn croesawu pawb i'n hysgol
Everyone is welcome at Creigiau Primary School / Mae croeso cynnes i bawb yn Ysgol Gynradd Creigiau